![]() |
CROESO | LLETY | BWYD | CYFARFODYDD A DIGWYDDIADAU | PETHAU I WNEUD | CYSYLLTWCH Â NI | ENGLISH |
![]() |
![]() ![]() ![]() |
Croeso i
Westy’r Penrhos ger Machynlleth, Canolbarth Cymru |
Canolbarth Cymru,
Bae Ceredigion Lle gwych i fwynhau arfordir a chefn gwlad Cymru |
Cysylltwch â ni ...
Codwch y ffon |
||||||
|
|
|
||||||
Dewch i fwynhau mwynder Maldwyn ar ei orau wrth dreulio ychydig ddyddiau ymlaciol neu arhosiad dros nos yng Ngwesty'r Penrhos, Cemaes ger Machynlleth. Saif y Penrhos yng nghanol y pentref ar ymyl yr A470, sef y brif ffordd o'r de i'r gogledd. Bydd croeso Cymreig yn eich disgwyl. Mae Gwesty'r Penrhos yn cynnig pump ystafell wely en-suite sy'n addas ar gyfer unigolion ar fusnes neu deuluoedd sy'n dymuno rhannu ystafell. Darperir teledu a hambwrdd croeso ym mhob ystafell. |
Dyma'r lleoliad delfrydol os ydych am fwynhau golygfeydd godidog yr ardal. Gallwch grwydro mynyddoedd, dyffrynnoedd a llynnoedd y canolbarth neu dreulio diwrnod hamddenol ar un o draethau Bae Ceredigion. Ceir nifer o lwybrau cerdded a beicio mynydd o fewn cyrraedd hwylus gyda Llwybr Glyndwr gerllaw. Wyth milltir i'r gorllewin mae Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru a lleoliad senedd Owain Glyndwr. Yma gallwch ymweld a'r senedd-dy neu fwynhau celf amrywiol a chyffrous yr Amgueddfa Gelf Fodern. Mae nifer o fwytai a siopau bach unigryw i'ch difyrru yn y dre ac ar ddydd Mercher gallwch brofi bwrlwm y farchnad stryd brysur. |
|
|